Pwll y Grawys - Dinbych: eich syniadau
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Mae ardal Pwyll y Grawys yn Ninbych Uchaf (tuag at ochr ddeheuol y dref) gyda chyffordd brysur a llawer o fysys lleol yn gwneud defnydd ohoni yn ogystal â chysylltu Stryd y Bont/Stryd Fawr gyda Stryd Henllan a Ffordd y Ffair
Ffigur 1 (uchod) - Pwll y Grawys yn Ninbych
Mae nifer o bryderon diogelwch wedi cael eu codi gan breswylwyr lleol a Chynghorwyr ynghylch y safle dros y blynyddoedd, ac rydym bellach mewn sefyllfa i ddechrau deall y pryderon hyn mewn mwy o fanylder gyda’r bwriad o ail-ddylunio’r gyffordd o bosib yn y dyfodol
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem glywed eich barn.
Bydd deall sut yr ydych yn defnyddio’r gyffordd ym Mhwll y Grawys a sut yr ydych yn meddwl y gellir gwella’r rhan hon o’r ffordd yn ein helpu ni gyda’n hymchwil ac i gyflawni astudiaethau dichonolrwydd i wneud gwelliannau defnyddiol i’r gyffordd.
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn ein harolwg ymgynghori byr, neu i fynychu sesiwn gwybodaeth i’r cyhoedd i siarad â’r swyddogion Diogelwch Ffyrdd ac ymgynghorwyr rheoli traffig arbenigol.
Sut i gymryd rhan
Rydym yn cynnal sesiwn gwybodaeth ar ddydd Mawrth, 30 Ebrill, 4-7pm
Cynhelir y sesiwn yn: Neuadd y Dref, Lôn y Goron, Dinbych, LL16 3TB
Os nad ydych yn rhydd i ddod i’r sesiwn gwybodaeth, gallwch gymryd rhan drwy lenwi ein holiadur ymgynghori. Mae’r holiadur i’w gael ar-lein neu mae’n bosib gwneud cais am gopïau papur yn Llyfrgell Dinbych
- Llenwch yr arolwg ar-lein
- Lawrlwythwch a llenwch gopi papur o’r arolwg a’i ddychwelyd i Lyfrgell Dinbych
Y dyddiad cau ar gyfer yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad yw dydd Mercher, 15 Mai 2024
Lleoliad: Dinbych
-
Dyddiad Cychwyn
23 Ebrill 2024
-
Dyddiad Gorffen
15 Mai 2024
-
Dulliau
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?
Arolygon
Adroddiadau a Chysylltiadau